Food for Particular Nutritional Uses (Addition of Substances for Specific Nutritional Purposes) (Wales) Regulations 2009 (W.S.I. No. 3254 (W.283) of 2009)
颁布于 2009-12-08 · 文本截至 2026-10-01
以研究形式发布的公开法律与官方指引,不构成法律、税务或金融建议。
研究内容本身以英文撰写。标题和标签已翻译,调查结果和引文未翻译。
关于这部法律
- 语言
- English
- 类型
- 条例
- 国家
- 英国 · Wales
- 主题
- Food and nutrition
- 关键词
- food safety and quality, special dietary uses, offences/penalties, nutrition
在哪里阅读
该法律没有记录来源链接。
文本
所收录的法律原文,按条款排列。每个条款都有自己的链接。
W E L S H S TAT U T O RY I N S T R U M E N T S 2009 No. 3254 (W.283) FOOD, WALES The Food for Particular Nutritional Uses (Addition of Substances for Specific Nutritional Purposes) (Wales) Regulations 2009 EXPLANATORY NOTE (This note is not part of the Regulations) 1. These Regulations, which apply in relation to Wales, make provision for the execution and enforcement of Commission Regulation (EC) No. 953/2009 on substances that may be added for specific nutritional purposes in foods for particular nutritional uses (OJ No. L269, 14.10.2009, p.9) ("the Commission Regulation"). The Commission Regulation repeals and replaces Commission Directive 2001/15/EC on substances that may be added for specific nutritional purposes in food for particular nutritional uses (OJ No. L52, 22.2.2001, p.19) and Commission Directive 2004/6/EC derogating from Directive 2001/15/EC to postpone the application of the prohibition of trade to certain products (OJ No. L15, 22.1.2004, p.31). 2. These Regulations– (a) provide that a person who contravenes specified provisions of the Commission Regulation set out in the Schedule to these Regulations is guilty of an offence (regulation 3(1)); (b) provide penalties for offences (regulation 3(2)); (c) specify the enforcement authority (regulation 3(3)); (d) provide for the application of specified provisions of the Food Safety Act 1990 (1990 c.16) for the purposes of these Regulations (regulation 4); O F F E RY N N A U S TAT U D O L C Y M R U 2009 Rhif 3254 (Cy.283) BWYD, CYMRU Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009 NODYN ESBONIADOL (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 953/2009 ar sylweddau y caniateir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol (OJ Rhif L269, 14.10.2009, t.9) ("Rheoliad y Comisiwn"). Mae Rheoliad y Comisiwn yn diddymu ac yn disodli Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/15/EC ar sylweddau y caniateir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwyd at ddefnydd maethol neilltuol (OJ Rhif L52, 22.2.2001, t.19) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2004/6/EC sy'n rhanddirymu Cyfarwyddeb 2001/15/EC er mwyn gohirio cymhwyso'r gwaharddiad ar fasnachu i gynhyrchion penodol (OJ Rhif L15, 22.1.2004, t.31). 2. Mae'r Rheoliadau hyn– (a) yn darparu bod person sydd yn mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig Rheoliad y Comisiwn a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd (rheoliad 3(1)); (b) yn darparu cosbau am dramgwyddau (rheoliad 3(2)); (c) yn pennu'r awdurdod gorfodi (rheoliad 3(3)); (ch) yn darparu ar gyfer cymhwysiad darpariaethau penodedig Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16) at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 4); (d) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3111 (Cy.231)) (rheoliad 5); ac (dd)yn dirymu Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2939 (Cy. 280)) (rheoliad 6). 3. Mae Erthygl 3(2) o Reoliad y Comisiwn yn cyfeirio at yr awdurdodau cymwys y cyfeirir atynt yn Erthygl 11 o Gyfarwyddeb 2009/39/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau bwyd a fwriedir ar gyfer defnydd maethol neilltuol (OJ Rhif L124, 20.5.2009, t.21). Mae Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1040 (Cy.100)) yn darparu yn rheoliad 3 mai'r Asiantaeth Safonau Bwyd yw'r awdurdod cymwys o ran bwyd at ddefnydd maethol neilltuol a weithgynhyrchwyd yng Nghymru neu a fewnforiwyd i Gymru o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig. (e) make consequential amendments to the Tryptophan in Food (Wales) Regulations 2005 (S.I. 2005/3111 (W.231)) (regulation 5); and (f) revoke the Food for Particular Nutritional Uses (Addition of Substances for Specific Nutritional Purposes) (Wales) Regulations 2002 (S.I. 2002/2939 (W.280)) (regulation 6). 3. Article 3(2) of the Commission Regulation refers to the competent authorities referred to in Article 11 of Directive 2009/39/EC of the European Parliament and of the Council on foodstuffs intended for particular nutritional uses (OJ No. L124, 20.5.2009, p.21). The Notification of Marketing of Food for Particular Nutritional Uses (Wales) Regulations 2007 (S.I. 2007/1040 (W.100)) provide at regulation 3 that the Food Standards Agency is the competent authority in respect of food for a particular nutritional use manufactured in Wales or imported into Wales from outside the United Kingdom. 2 O F F E RY N N A U S TAT U D O L C Y M R U 2009 Rhif 3254 (Cy.283) BWYD, CYMRU Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009 Gwnaed 8 Rhagfyr 2009 Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Rhagfyr 2009 Yn dod i rym 1 Ionawr 2010 Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2). Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3) ac mae'n ymddangos yn hwylus i Weinidogion Cymru i unrhyw gyfeiriad at yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 953/2009 am sylweddau y caniateir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol(4) gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd. Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. W E L S H S TAT U T O RY I N S T R U M E N T S 2009 No. 3254 (W.283) FOOD, WALES The Food for Particular Nutritional Uses (Addition of Substances for Specific Nutritional Purposes) (Wales) Regulations 2009 Made 8 December 2009 Laid before the National Assembly for Wales 10 December 2009 Coming into force 1 January 2010 The Welsh Ministers make the following Regulations in exercise of the powers conferred by sections 16(1)(e), 17(2), 26(1)(a) and (3) and 48(1) of the Food Safety Act 1990(1) and now vested in them(2). These Regulations make provision for a purpose mentioned in section 2(2) of the European Communities Act 1972(3) and it appears to the Welsh Ministers that it is expedient for any reference to the Annex to Commission Regulation (EC) No. 953/2009 on substances that may be added for specific nutritional purposes in foods for particular nutritional uses(4) to be construed as a reference to that Annex as amended from time to time. In accordance with section 48(4A) of the Food Safety Act 1990, the Welsh Ministers have had regard to relevant advice given by the Food Standards Agency. (1) 1990 c.16. (2) Functions of the Secretary of State, so far as exercisable in relation to Wales, were transferred to the National Assembly for Wales by the National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999 (S.I. 1999/672) and thereafter transferred to the Welsh Ministers by paragraph 30 of Schedule 11 to the Government of Wales Act 2006 (2006 c.32). (3) 1972 c.68. Paragraph 1A of Schedule 2 was inserted by section 28 of the Legislative and Regulatory Reform Act 2006 (2006 c.51). (4) OJ No. L269, 14.10.2009, p.9. 3 (1) 1990 p.16. (2) Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). (3) 1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006 p.51). (4) OJ Rhif L269, 14.10.2009, t.9. Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(1), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd tra'r oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu paratoi a'u gwerthuso. Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 1 Ionawr 2010. Dehongli 2.–(1) Yn y Rheoliadau hyn– mae i "awdurdod bwyd" yr ystyr sydd i'r ymadrodd "food authority" yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf; ystyr "darpariaeth benodedig" ("specified provision") yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad y Comisiwn a bennir yng Ngholofn 1 o'r Atodlen ac y disgrifir y pwnc y mae'n ymdrin ag ef yng Ngholofn 2 o'r Atodlen; ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990; ac ystyr "Rheoliad y Comisiwn" ("the Commission Regulation") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 953/2009 am sylweddau y caniateir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol. (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf. (3) Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn. (4) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf yn cael eu priodoli– As required by Article 9 of Regulation (EC) No. 178/2002 of the European Parliament and of the Council laying down the general principles and requirements of food law, establishing the European Food Safety Authority and laying down procedures in matters of food safety(1) there has been open and transparent public consultation during the preparation and evaluation of these Regulations. Title, application and commencement 1. The title of these Regulations is The Food for Particular Nutritional Uses (Addition of Substances for Specific Nutritional Purposes) (Wales) Regulations 2009, they apply in relation to Wales and come into force on 1 January 2010. Interpretation 2.–(1) In these Regulations– "the Act" ("y Ddeddf") means the Food Safety Act 1990; "the Commission Regulation" ("Rheoliad y Comisiwn") means Commission Regulation (EC) No. 953/2009 on substances that may be added for specific nutritional purposes in foods for particular nutritional uses; "food authority" ("awdurdod bwyd") has the meaning that it bears by virtue of section 5(1A) of the Act; and "specified provision" ("darpariaeth benodedig") means any provision of the Commission Regulation that is specified in Column 1 of the Schedule and whose subject-matter is described in Column 2 of the Schedule. (2) Subject to paragraph (3), any expression other than one defined in paragraph (1) that is used both in these Regulations and in the Act has the meaning it bears in the Act. (3) Any expression used both in these Regulations and in the Commission Regulation has the meaning that it bears in the Commission Regulation. (4) Where any functions under the Act are assigned– (1) OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau, sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad, yn ôl Penderfyniad y Cyngor 1999/468/EC mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad yn ôl y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14). (1) OJ No. L31, 1.2.2002, p.1, as last amended by Regulation (EC) No. 596/2009 of the European Parliament and of the Council adapting a number of instruments subject to the procedure referred to in Article 251 of the Treaty to Council Decision 1999/468/EC with regard to the regulatory procedure with scrutiny: Adaptation to the regulatory procedure with scrutiny - Part Four (OJ No. L188, 18.7.2009, p.14). 4 (a) drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), i awdurdod iechyd porthladd; neu (b) drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(2), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi eu priodoli felly iddo. (5) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd. Tramgwyddau, cosbau a gweithredu a gorfodi 3.–(1) Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau penodedig yn euog o dramgwydd. (2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol. (3) Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal. Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf 4. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn– (a) adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl); (b) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall); (c) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(3), fel y bo'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15; (ch) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol); (d) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion); (dd)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (d); (a) by an order under section 2 or 7 of the Public Health (Control of Disease) Act 1984(1), to a port health authority; or (b) by an order under section 6 of the Public Health Act 1936(2), to a joint board for a united district, any reference in these Regulations to a food authority is construed, so far as relating to those functions, as a reference to the authority to whom they are so assigned. (5) In these Regulations any reference to the Annex to the Commission Regulation is a reference to that Annex as amended from time to time. Offences, penalties and execution and enforcement 3.–(1) Any person who contravenes any of the specified provisions is guilty of an offence. (2) A person guilty of an offence under paragraph (1) will be liable on summary conviction to a fine not exceeding level 5 on the standard scale. (3) Each food authority must execute and enforce these Regulations within its area. Application of various sections of the Act 4. The following provisions of the Act apply for the purposes of these Regulations with the modification that any reference in those provisions to the Act or Part thereof is construed as a reference to these Regulations– (a) section 3 (presumptions that food intended for human consumption); (b) section 20 (offences due to fault of another person); (c) section 21 (defence of due diligence)(3), as it applies for the purpose of section 14 or 15; (d) section 30(8) (which relates to documentary evidence); (e) section 33(1) (obstruction etc. of officers); (f) section 33(2), with the modification that the reference to "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" is deemed to be a reference to any such requirement as is mentioned in that subsection as applied by paragraph (e); (1) 1984 p.22; amnewidiwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990. (2) 1936 p.49; mae adran 6 i'w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990. (3) Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279. (1) 1984 c.22; section 7(3)(d) was substituted by paragraph 27 of Schedule 3 to the Food Safety Act 1990. (2) 1936 c.49; section 6 is to be read with paragraph 1 of Schedule 3 to the Food Safety Act 1990. (3) Section 21 was amended by S.I. 2004/3279. 5 (e) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(1), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (d); (f) adran 35(2) a (3)(2), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (dd); (ff) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); (g) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(3); ac (ng)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll). Diwygio Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 2005 5.–(1) Mae Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 2005(4) wedi eu diwygio'n unol â'r paragraffau canlynol. (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o "Cyfarwyddeb 2001/15/EC", rhodder y diffiniad canlynol– "ystyr "Rheoliad 953/2009" ("Regulation 953/2009") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 953/2009 am sylweddau y caniateir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol;". (3) Yn rheoliad 5 (eithriadau rhag y gwaharddiadau), yn lle is-baragraff (c) o baragraff (2), rhodder yr is baragraff canlynol– "(c) tryptoffan chwithdroadol, ei halwynau sodiwm, potasiwm, calsiwm neu fagnesiwm neu ei hydroclorid a ychwanegwyd gan gydymffurfio â Rheoliad 953/2009 at unrhyw fwyd at ddefnydd maethol penodol y cyfeirir ato yn yr Atodiad i'r Rheoliad hwnnw;". Dirymu 6. Mae Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002(5) wedi eu dirymu. (g) section 35(1) (punishment of offences)(1), in so far as it relates to offences under section 33(1) as applied by paragraph (e); (h) section 35(2) and (3)(2), in so far as it relates to offences under section 33(2) as applied by paragraph (f); (i) section 36 (offences by bodies corporate); (j) section 36A(offences by Scottish partnerships)(3); and (k) section 44 (protection of officers acting in good faith). Amendment to the Tryptophan in Food (Wales) Regulations 2005 5.–(1) The Tryptophan in Food (Wales) Regulations 2005(4) are amended in accordance with the following paragraphs. (2) In paragraph (1) of regulation 2 (interpretation), for the definition "Directive 2001/15/EC" there is substituted the following definition– ""Regulation 953/2009" ("Rheoliad 953/2009") means Commission Regulation (EC) No. 953/2009 on substances that may be added for specific nutritional purposes in foods for particular nutritional uses;". (3) In regulation 5 (exceptions from prohibitions), for sub-paragraph (c) of paragraph (2) there is substituted the following sub-paragraph– "(c) laevorotatory tryptophan, its sodium, potassium, calcium or magnesium salts or its hydrochloride, added in compliance with Regulation 953/2009 to any food for a particular nutritional use referred to in the Annex to that Regulation;". Revocation 6. The Food for Particular Nutritional Uses (Addition of Substances for Specific Nutritional Purposes) (Wales) Regulations 2002(5) are revoked. (1) Mae adran 35(1) wedi ei diwygio gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu. (2) Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279. (3) Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16. (4) O.S. 2005/3111 (Cy.231). (5) O.S. 2002/2939 (Cy.280). (1) Section 35(1) is amended by the Criminal Justice Act 2003 (2003 c.44), Schedule 26, paragraph 42, from a date to be appointed. (2) Section 35(3) was amended by S.I. 2004/3279. (3) Section 36A was inserted by the Food Standards Act 1999 (1999 c.28), Schedule 5, paragraph 16. (4) S.I. 2005/3111 (W.231). (5) S.I. 2002/2939 (W.280). 6 Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru 8 Rhagfyr 2009 Deputy Minister for Social Services under authority of the Minister for Health and Social Services, one of the Welsh Ministers 8 December 2009 7 Gwenda Thomas YR ATODLEN Rheoliadau 2(1) a 3(1) Darpariaethau Penodedig Y ddarpariaeth yn Y pwnc Rheoliad y Comisiwn Erthygl 2(1) O ran y sylweddau sy'n perthyn i'r categorïau sy'n ymddangos yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn, gofyniad mai dim ond y rhai o blith y sylweddau hynny sydd wedi eu rhestru yn yr Atodiad hwnnw, ac sy'n cydymffurfio â'r manylebau perthnasol fel y bo'n angenrheidiol, sydd i'w hychwanegu at ddibenion maethol penodol wrth weithgynhyrchu bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol a gwmpesir gan Gyfarwyddeb 2009/39 Senedd Ewrop a'r Cyngor am fwydydd sydd wedi eu bwriadu at ddefnydd maethol neilltuol(1). Erthygl 3(1) Gofyniad y bydd y defnydd ar sylweddau a ychwanegir at ddibenion maethol penodol yn arwain at weithgynhyrchu cynhyrchion diogel sy'n bodloni anghenion maethol neilltuol y personau y maent wedi eu bwriadu ar eu cyfer, fel a gadarnheir drwy ddata gwyddonol a dderbynnir yn gyffredinol. Erthygl 3(2) Gofyniad y bydd y gweithgynhyrchydd neu, pan fo'n briodol, y mewnforiwr, os gofynnir iddo wneud hynny gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn dangos y gwaith gwyddonol a'r data sy'n cadarnhau bod y defnydd ar y sylweddau yn cydymffurfio ag Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn. Os yw gwaith a data o'r fath wedi eu cynnwys mewn cyhoeddiad sydd ar gael yn rhwydd, bydd cyfeiriad at y cyhoeddiad hwnnw yn ddigon. THE SCHEDULE Regulations 2(1) and 3(1) Specified Provisions Provision of the Subject-matter Commission Regulation Article 2(1) Requirement that among the substances belonging to the categories appearing in the Annex to the Commission Regulation, only those listed in that Annex, complying with the relevant specifications as necessary may be added for specific nutritional purposes in the manufacture of foodstuffs for particular nutritional uses covered by Directive 2009/39 of the European Parliament and the Council on foodstuffs intended for particular nutritional uses(1). Article 3(1) Requirement that the use of substances added for specific nutritional purposes will result in the manufacture of safe products that fulfil the particular nutritional requirements of the persons for whom they are intended, as established by generally accepted scientific data. Article 3(2) Requirement that upon request by the Food Standards Agency, the manufacturer or, where appropriate, the importer will produce the scientific work and the data establishing that the use of the substances complies with Article 3(1) of the Commission Regulation. If such work and data are contained in a readily available publication, a mere reference to that publication will suffice. (1) OJ Rhif L124, 20.5.2009, t.21. (1) OJ No. L124, 20.5.2009, p.21. 8 Erthygl 4(2) Gofyniad y bydd y meini prawf ar burdeb, a bennwyd drwy ddeddfwriaeth Gymunedol ac sy'n gymwys i'r sylweddau a restrir yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn pan fônt yn cael eu defnyddio wrth weithgynhyrchu bwydydd at ddibenion nad ydynt yn rhai sy'n cael eu cwmpasu gan Reoliad y Comisiwn, yn gymwys hefyd i'r sylweddau hynny pan fônt yn cael eu defnyddio at ddibenion sy'n cael eu cwmpasu gan Reoliad y Comisiwn. Erthygl 4(3) Gofyniad, yn achos sylweddau a restrir yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn ac nad oes meini prawf ar burdeb wedi eu pennu ar eu cyfer drwy ddeddfwriaeth Gymunedol, a hyd nes y bydd manylebau o'r fath wedi eu mabwysiadu, y bydd y meini prawf ar burdeb a dderbynnir yn gyffredinol ac a argymhellir gan gyrff rhyngwladol yn gymwys. Article 4(2) Requirement that purity criteria established by Community legislation which apply to the substances listed in the Annex to the Commission Regulation when they are used in the manufacture of foodstuffs for purposes other than those covered by the Commission Regulation will also apply to those substances when they are used for purposes covered by the Commission Regulation. Article 4(3) Requirement that for substances listed in the Annex to the Commission Regulation for which purity criteria are not established by Community legislation, and until the adoption of such specifications, generally acceptable purity criteria recommended by international bodies will apply. 9 © Crown copyright 2009 Printed and Published in the UK by the Stationery Office Limited under the authority and superintendence of Carol Tullo, Controller of Her Majesty’s Stationery Office and Queen’s Printer of Acts of Parliament. © h Hawlfraint y Goron 2009 Argraffwyd a chyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig gan The Stationery Office Limited o dan awdurdod ac arolygiaeth Carol Tullo, Rheolwr Gwasg Ei Mawrhydi ac Argraffydd Deddfau Seneddol y Frenhines. W E L S H S TAT U T O RY I N S T R U M E N T S 2009 No. 3254 (W.283) FOOD, WALES The Food for Particular Nutritional Uses (Addition of Substances for Specific Nutritional Purposes) (Wales) Regulations 2009 O F F E RY N N A U S TAT U D O L C Y M R U 2009 Rhif 3254 (Cy.283) BWYD, CYMRU Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009 £5.50 W592/12/09 ON