Marine Licensing (Fees) (Wales) Regulations 2017 (W.S.I. No. 557 (W.79) of 2017)
Made 2017-03-06 · Text as of 2026-10-01
Public law and official guidance, published as research. Not legal, tax or financial advice.
About this law
- Language
- English
- Kind
- Regulation
- Country
- United Kingdom · Wales
- Subjects
- Environment, Sea
- Keywords
- marine pollution, environmental fees/charges, pollution control, fees/royalties
Where to read it
No source link is recorded for this law.
Text
The law's own text, section by section, as held. Each section has its own link.
O F F E R Y N N A U S T A T U D O L C Y M R U 2017 Rhif 280 (Cy. 74) DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU TRWYDDEDU (MOROL), CYMRU LLYGREDD MOROL, CYMRU Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd) (Cymru) 2017 NODYN ESBONIADOL (Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ffioedd trwyddedu morol y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas â hwy o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. O dan adran 67(1)(b) o’r Ddeddf honno, caiff yr awdurdod trwyddedu priodol ei gwneud yn ofynnol i ffi fynd gyda chais am drwydded forol. Mae rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn darparu bod y ffi ar gyfer penderfynu ar gais am drwydded naill ai yn ffi benodedig neu’n swm a gyfrifir drwy luosi nifer yr oriau a weithiwyd â £120. Mae Band 1 yn gymwys i geisiadau sy’n ymwneud â mân weithgareddau. Mae Band 2 yn gymwys i unrhyw gais nad yw’n dod o fewn Band 1 nac o fewn y Band hwnnw yn unig, ac sy’n ymwneud â “gweithgaredd penodedig”. Mae “gweithgaredd penodedig” wedi ei ddiffinio ym mharagraffau 2 a 3 o Atodlen 1 ac mae’n cynnwys dyddodion o fewn ardal drwyddedu forol y DU, adeiladu, addasu neu wella gweithfeydd a defnyddio cerbyd neu lestr i symud ymaith sylweddau neu wrthrychau o wely’r môr, ond nid yw’n cynnwys gweithgareddau penodol. Mae Band 3 yn gymwys i unrhyw gais sy’n ymwneud ag unrhyw weithgaredd nad yw’n dod yn unig o fewn Band 1 na Band 2. W E L S H S T A T U T O R Y I N S T R U M E N T S 2017 No. 280 (W. 74) ENVIRONMENTAL PROTECTION, WALES LICENSING (MARINE), WALES MARINE POLLUTION, WALES The Marine Licensing (Fees) (Wales) Regulations 2017 EXPLANATORY NOTE (This note is not part of the Regulations) These Regulations apply to marine licensing fees in relation to which the Welsh Ministers are the appropriate licensing authority under the Marine and Coastal Access Act 2009. Under section 67(1)(b) of that Act the appropriate licensing authority may require that an application for a marine licence be accompanied by a fee. Regulation 4 and Schedule 1 provide that the fee for determining an application for a licence is either a fixed fee or an amount calculated by multiplying the number of hours worked by £120. Band 1 applies to applications relating to activities of a minor nature. Band 2 applies to any application which does not fall within Band 1 or exclusively within that Band, and which relates to a “specified activity”. “Specified activity” is defined in paragraphs 2 and 3 of Schedule 1 and includes deposits within the UK marine licensing area, the construction, alteration or improvement of works and the use of a vehicle or vessel to remove substances or objects from the sea bed, but excludes certain activities. Band 3 applies to any application relating to any activity which neither falls exclusively within Band 1 nor within Band 2. 2 Mae rheoliad 5 ac Atodlen 2 yn darparu bod ffi benodedig ar gyfer bodloni amodau trwydded sy’n ymwneud â thrwyddedau morol sy’n dod o fewn disgrifiadau ceisiadau Band 1 neu Fand 2 a nodir yn Atodlen 1. Cyfrifir pob ffi arall ar gyfer gwaith monitro drwy luosi nifer yr oriau a weithiwyd â £120. Mae rheoliad 6 ac Atodlen 3 yn darparu bod ffioedd penodedig ar gyfer amrywiadau penodol i drwydded forol ac ar gyfer trosglwyddo trwydded forol. Pan fo amrywiad i drwydded forol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod trwyddedu ymgynghori ag unrhyw un heblaw am y trwyddedai, cyfrifir y ffioedd ar gyfer amrywio trwydded forol drwy luosi nifer yr oriau a weithiwyd â £120. Mae rheoliadau 7 i 10 yn cynnwys darpariaethau ychwanegol sy’n ymwneud â thalu’r cyfryw ffioedd, blaendaliadau ac ad-daliadau. Mae rheoliad 11 yn dirymu Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd am Geisiadau) (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”), ac mae rheoliad 12 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed. Yn rhinwedd y darpariaethau hyn, mae Rheoliadau 2011 yn gymwys i unrhyw gais am drwydded forol neu i amrywio neu drosglwyddo trwydded forol a ddaeth i law cyn 1 Ebrill 2017 (pa un ai y penderfynwyd ar y cais gan Weinidogion Cymru cyn y dyddiad hwnnw ai peidio). Mae rheoliad 12(3) yn egluro y bydd ffioedd monitro yn gymwys i drwyddedau morol ni waeth pa un ai y rhoddwyd trwyddedau o’r fath cyn 1 Ebrill 2017. Nid yw’r Rheoliadau hyn yn penderfynu’r holl ffioedd y caniateir eu codi mewn perthynas â thrwyddedu morol. Mae’r ffioedd ychwanegol y caniateir eu codi yn cynnwys ffioedd o dan adrannau 67(5), 67A a 72A(6) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 a ffioedd o dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r ffioedd hynny. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Regulation 5 and Schedule 2 provide for a fixed fee for the discharge of licence conditions relating to marine licences that fall within the descriptions of Band 1 or Band 2 applications set out in Schedule 1. All other monitoring fees are calculated by multiplying the number of hours worked by £120. Regulation 6 and Schedule 3 provide for fixed fees for certain variations of a marine licence and the transfer of a marine licence. Where the variation of a marine licence requires the licensing authority to consult with anyone other than the licensee, fees for the variation of a marine licence are calculated by multiplying the number of hours worked by £120. Regulations 7 to 10 contain additional provisions relating to the payment of such fees, deposits and refunds. Regulation 11 revokes the Marine Licensing (Application Fees) (Wales) Regulations 2011 (“the 2011 Regulations”), and regulation 12 contains transitional and saving provisions. By virtue of these provisions the 2011 Regulations apply to any application for a marine licence or the variation or transfer of a marine licence received before 1 April 2017 (whether or not determined by the Welsh Ministers before that date). Regulation 12(3) clarifies that monitoring fees will be applied to marine licences regardless of whether such licences were granted prior to 1 April 2017. These Regulations do not determine all fees that may be charged in relation to marine licensing. Additional fees that may be charged include, but are not limited to, fees under sections 67(5), 67A and 72A(6) of the Marine and Coastal Access Act 2009 and fees under the Marine Works (Environmental Impact Assessment) Regulations 2007. The Welsh Ministers' Code of Practice on the carrying out of Regulatory Impact Assessments was considered in relation to these Regulations. As a result, a regulatory impact assessment has been prepared as to the likely costs and benefits of complying with these Regulations. A copy can be obtained from the Welsh Government, Cathays Park, Cardiff, CF10 3NQ 3 O F F E R Y N N A U S T A T U D O L C Y M R U 2017 Rhif 280 (Cy. 74) DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU TRWYDDEDU (MOROL), CYMRU LLYGREDD MOROL, CYMRU Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd) (Cymru) 2017 Gwnaed 6 Mawrth 2017 Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Mawrth 2017 Yn dod i rym 1 Ebrill 2017 CYNNWYS 1. Enwi a chychwyn 2. Dehongli 3. Cymhwyso 4. Ffioedd ar gyfer ceisiadau am drwyddedau 5. Ffioedd ar gyfer monitro a bodloni amodau trwydded 6. Ffioedd ar gyfer amrywio a throsglwyddo trwyddedau 7. Cyfrifo ffioedd 8. Talu ffioedd 9. Blaendaliadau 10. Ad-daliadau 11. Dirymu Rheoliadau 2011 12. Darpariaethau trosiannol ac arbed YR ATODLENNI ATODLEN 1 — Bandiau a Ffioedd Ceisiadau W E L S H S T A T U T O R Y I N S T R U M E N T S 2017 No. 280 (W. 74) ENVIRONMENTAL PROTECTION, WALES LICENSING (MARINE), WALES MARINE POLLUTION, WALES The Marine Licensing (Fees) (Wales) Regulations 2017 Made 6 March 2017 Laid before the National Assembly for Wales 8 March 2017 Coming into force 1 April 2017 CONTENTS 1. Title and commencement 2. Interpretation 3. Application 4. Fees for applications for licences 5. Fees for monitoring and discharge of licence conditions 6. Fees for variation and transfer of licences 7. Calculation of fees 8. Payment of fees 9. Deposits 10. Refunds 11. Revocation of the 2011 Regulations 12. Transitional and saving provisions SCHEDULES SCHEDULE 1 — Application Bands and Fees 4 ATODLEN 2 — Ffioedd sy’n Daladwy ar gyfer Monitro ATODLEN 3— Ffioedd sy’n Daladwy ar gyfer Amrywio a Throsglwyddo Trwyddedau Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 67(2), (3), 72A(4), 107A(3), 107B(5) a 316(1)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(1), mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b)(2) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn. Enwi a chychwyn 1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd) (Cymru) 2017. (2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2017. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn— ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009; ystyr “gweithgaredd” (“activity”) yw gweithgaredd morol trwyddedadwy; ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd am Geisiadau) (Cymru) 2011(3); ac ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded forol a roddir o dan adran 71(1)(a) neu (b) o’r Ddeddf. Cymhwyso 3. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw drwydded ac unrhyw gais am drwydded y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas â hwy o dan adran 113 o’r Ddeddf ac mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “yr awdurdod trwyddedu” i’w darllen yn unol â hynny. (1) 2009 p. 23; diwygiwyd gan Ran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3), mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. (2) Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o’r Ddeddf, Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu priodol mewn cysylltiad ag unrhyw beth a wneir wrth gyflawni gweithgareddau morol trwyddedadwy o ran Cymru a rhanbarth glannau Cymru ac eithrio gweithgareddau y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer yn rhinwedd adran 113(4)(a) a (5) o’r Ddeddf. Gweler adran 322(1) o’r Ddeddf i gael diffiniad o “Welsh inshore region”. (3) O.S. 2011/555 (Cy. 78). SCHEDULE 2 — Fees Payable for Monitoring SCHEDULE 3— Fees Payable for Variation and Transfer of Licences In exercise of the powers conferred by sections 67(2), (3), 72A(4), 107A(3), 107B(5) and 316(1)(b) of the Marine and Coastal Access Act 2009(1), the Welsh Ministers, as the appropriate licensing authority under section 113(4)(b)(2) of that Act, makes the following Regulations. Title and commencement 1.—(1) The title of these Regulations is the Marine Licensing (Fees) (Wales) Regulations 2017. (2) These Regulations come into force on 1 April 2017. Interpretation 2. In these Regulations— “the Act” (“y Ddeddf”) means the Marine and Coastal Access Act 2009; “the 2011 Regulations” (“Rheoliadau 2011”) means the Marine Licensing (Application Fees) (Wales) Regulations 2011(3); “activity” (“gweithgaredd”) means a licensable marine activity; and “licence” (“trwydded”) means a marine licence granted under section 71(1)(a) or (b) of the Act. Application 3. These Regulations apply in relation to any licence and any application for a licence in relation to which the Welsh Ministers are the appropriate licensing authority under section 113 of the Act and references in these Regulations to “the licensing authority” are to be read accordingly. (1) 2009 c. 23; amended by Part 6 of the Environment (Wales) Act 2016 (anaw 3), there are other amendments but none is relevant. (2) By virtue of section 113(4)(b) of the Act, the Welsh Ministers are the appropriate licensing authority as respects anything done in the course of carrying on a licensable marine activity in relation to Wales and the Welsh inshore region, other than activities for which the Secretary of State is the appropriate licensing authority by virtue of section 113(4)(a) and (5) of the Act. See section 322(1) of the Act for a definition of the “Welsh inshore region”. (3) S.I. 2011/555 (W.78). 5 Ffioedd ar gyfer ceisiadau am drwyddedau 4. Mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â phenderfynu ar gais sy’n dod o fewn band a ddisgrifir yng ngholofn gyntaf paragraff 1 o Atodlen 1 wedi eu nodi yn ail golofn y paragraff hwnnw. Ffioedd ar gyfer monitro a bodloni amodau trwydded 5. Mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwaith monitro o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 2 mewn perthynas â thrwyddedau o ddisgrifiad a bennir yn ail golofn yr Atodlen honno wedi eu nodi yn nhrydedd golofn yr Atodlen honno. Ffioedd ar gyfer amrywio a throsglwyddo trwyddedau 6. Mae’r ffioedd sy’n daladwy ar gyfer penderfynu ar gais i amrywio neu drosglwyddo trwydded forol o dan yr amgylchiadau a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 3 mewn perthynas â thrwyddedau o fath a bennir yn ail golofn yr Atodlen honno wedi eu nodi yn nhrydedd golofn yr Atodlen honno. Cyfrifo ffioedd 7. Wrth gyfrifo ffioedd drwy luosi nifer yr oriau a weithiwyd â chyfradd yr awr, caiff cyfanswm yr oriau a weithiwyd ei fynegi ar ffurf ffracsiwn pan fo— (a) llai nag un awr wedi ei weithio; neu (b) cyfanswm yr amser a weithiwyd yn fwy nag un awr ond na ellir ei fynegi fel rhif cyfan mewn oriau. Talu ffioedd 8.—(1) Mae pob ffi yn daladwy i Weinidogion Cymru pan ofynnir amdani. (2) Caniateir talu unrhyw ffi drwy gyfrwng electronig. (3) Nid yw taliad ffi wedi ei gael hyd nes bod Gweinidogion Cymru wedi cael arian cliriedig ar gyfer y swm cyfan sy’n ddyledus. (4) Caiff unrhyw ffi nad yw wedi ei thalu ei hadennill gan Weinidogion Cymru fel dyled sifil. Blaendaliadau 9. Rhaid cyfrifo blaendaliadau unrhyw ffioedd sy’n daladwy ar gyfradd yr awr drwy gyfeirio at yr amcangyfrif o hyd y gwaith sy’n debygol o fod yn ofynnol a’r gyfradd yr awr sy’n daladwy. Fees for applications for licences 4. The fees payable in respect of determining an application falling within a band described in the first column of paragraph 1 of Schedule 1 are set out in the second column of that paragraph. Fees for monitoring and discharge of licence conditions 5. The fees payable in respect of monitoring of a description specified in the first column of Schedule 2 in relation to licenses of a description specified in the second column of that Schedule are set out in the third column of that Schedule. Fees for variation and transfer of licences 6. The fees payable for determining an application for variation or transfer of a marine licence in the circumstances specified in the first column of Schedule 3 in relation to licences of a kind specified in the second column of that Schedule are set out in the third column of that Schedule Calculation of fees 7. When calculating fees by multiplying the number of hours worked by the hourly rate the total number of hours worked may be expressed as a fraction where— (a) less than one hour is worked; or (b) the total amount of time worked is more than one hour but cannot be expressed as a whole number in hours. Payment of fees 8.—(1) All fees are payable on demand to the Welsh Ministers. (2) Payment of any fee may be made by electronic means. (3) Payment of a fee is not received until the Welsh Ministers have received cleared funds for the full amount due. (4) Any unpaid fee may be recovered by the Welsh Ministers as a civil debt. Deposits 9. Deposits on account of any fee that is payable at an hourly rate must be calculated by reference to the estimated duration of the work likely to be required and the hourly rate payable. 6 Ad-daliadau 10. Rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu unrhyw daliad a wnaed sy’n fwy na’r ffi sy’n daladwy, ond nid yw ffioedd a dalwyd yn ad-daladwy fel arall. Dirymu Rheoliadau 2011 11. Yn ddarostyngedig i reoliad 12, mae Rheoliadau 2011 wedi eu dirymu. Darpariaethau trosiannol ac arbed 12.—(1) Mae Rheoliadau 2011 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw gais am drwydded forol, a chais i amrywio neu drosglwyddo trwydded forol sy’n dod i law Gweinidogion Cymru cyn 1 Ebrill 2017 nad oedd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu arno cyn y dyddiad hwnnw. (2) Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â phob cais am drwydded forol, a chais i amrywio neu drosglwyddo trwydded forol sy’n dod i law ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017. (3) Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â’r gwaith monitro a ddisgrifir yn Atodlen 2 a gyflawnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017 ni waeth pa un a yw’r gwaith monitro hwnnw yn ymwneud â thrwydded forol a roddwyd cyn, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017. (4) At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw cais wedi dod i law hyd nes bod ceisydd wedi darparu pa bynnag wybodaeth neu wedi dangos pa bynnag eitemau sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn yr awdurdod trwyddedu i alluogi’r awdurdod trwyddedu i benderfynu ar y cais. Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru 6 Mawrth 2017 Refunds 10. The Welsh Ministers must refund any payment made in excess of the fee payable, but fees paid are not otherwise refundable. Revocation of the 2011 Regulations 11. Subject to regulation 12, the 2011 Regulations are revoked. Transitional and saving provisions 12.—(1) The 2011 Regulations continue to have effect in respect of any application for a marine licence, variation or transfer of a marine licence that was received by the Welsh Ministers before 1 April 2017 which was not determined by the Welsh Ministers before that date. (2) These Regulations have effect in relation to all applications for a marine licence, variation or transfer of a marine licence received on or after 1 April 2017 (3) These Regulations have effect in relation to monitoring described in Schedule 2 carried out on or after 1 April 2017 regardless of whether such monitoring relates to a marine licence granted before, on or after 1 April 2017. (4) For the purposes of this regulation an application is not received until an applicant has supplied such information or produced such articles as in the opinion of the licensing authority may be necessary or expedient to enable the licensing authority to determine the application. Lesley Griffiths Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs, one of the Welsh Ministers 6 March 2017 7 ATODLEN 1 Rheoliad 4 Bandiau a Ffioedd Ceisiadau 1. Mae’r bandiau a’r ffioedd fel a ganlyn— Band y cais a disgrifiad ohono Y ffi ar gyfer penderfynu ar gais Band 1 Unrhyw gais sy’n ymwneud ag: £600 (a) atgyweirio neu ailosod bolltau, fflapiau, falfiau, byrddau ar lanfa neu ysgraff; (b) symud ymaith dyfiant morol a gwano oddi ar unrhyw adeilad neu strwythur neu unrhyw ran ohono; (c) gosod ysgolion wrth unrhyw adeilad neu strwythur; (d) dyddodi pyst a’u symud ymaith wedi hynny at ddibenion marcio sianeli, ardaloedd dwr bâs, arllwysfeydd a grwynau; (e) dyddodi bwiau marcio a’u symud ymaith wedi hynny; (f) defnyddio cerbyd neu lestr i symud ymaith fân ddarnau arwahanol o falurion nad ydynt ynghlwm wrth wely’r môr (gan gynnwys polion, trawstiau, distiau a mân wrthrychau tebyg) sy’n gysylltiedig ag adeiladu, dymchwel, difrod neu adfeiliad adeilad neu strwythur; (g) cael gwared ar ysbwriel gan ddefnyddio cerbyd neu lestr; neu (h) unrhyw mân weithgaredd tebyg. SCHEDULE 1 Regulation 4 Application Bands and Fees 1. The bands and the fees are as follows— Band and description of application Fee for determining the application Band 1 Any application relating to: £600 (a) repair or replacement of bolts, flaps, valves, decking on a pier or pontoon; (b) removal of marine growth and guano from any building or structure or any part thereof; (c) the installation of ladders at any building or structure; (d) the deposit and subsequent removal of posts for the purposes of marking channels, shallow water areas, outfalls and groynes; (e) the deposit and subsequent removal of marker buoys; (f) the use of a vehicle or vessel to remove discrete pieces of minor debris unattached to the seabed (including poles, girders, joists and objects of a similar minor nature) associated with construction, demolition, damage or disrepair of a building or structure; (g) the removal of litter using a vehicle or vessel; or (h) any activity of a similar minor nature. Band 2 Unrhyw gais nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1, neu nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1 yn unig, ac sy’n ymwneud â gweithgaredd penodedig. £1,920 Band 3 Unrhyw gais nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1 neu Fand 2, neu nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1 neu Fand 2 yn unig. Cyfrifir y ffi ar gyfradd o £120 yr awr. 2. Ym mharagraff 1, yn ddarostyngedig i’r eithriad ym mharagraff 3, ystyr “gweithgaredd penodedig” (“specified activity”) yw unrhyw weithgaredd sy’n dod o fewn un neu ddwy o’r eitemau a ganlyn— (a) eitem 1 (dyddodion o fewn ardal trwyddedu morol y DU etc.) o adran 66(1) o’r Ddeddf; (b) eitem 7 (adeiladu, addasu neu wella gweithfeydd etc.) o adran 66(1) o’r Ddeddf; (c) eitem 8 (defnyddio cerbyd, llestr, awyren, strwythur morol neu gynhwysydd arnofiol i symud sylweddau ymaith etc.) o adran 66(1) o’r Ddeddf; neu (d) eitem 9 (cyflawni unrhyw ffurf ar dreillio etc.) o adran 66(1) o’r Ddeddf ond dim ond i’r graddau y mae eitem 9 yn ymwneud â threillio o ran cynnal a chadw. 3. Nid yw gweithgaredd penodedig yn cynnwys— (a) unrhyw weithgaredd sydd i’w gyflawni fel rhan o brosiect o fath a bennir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/92/EU(1) ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd; (b) unrhyw weithgaredd sydd i’w gyflawni fel rhan o brosiect o fath a bennir yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb honno, os yw’n debygol oherwydd ei faint, ei natur neu ei leoliad o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd; (1) OJ L 26, 28.1.2012, t.1. Band 2 Any application which does not fall, or does not fall exclusively, within the descriptions in Band 1 and relates to a specified activity. £1,920 Band 3 Any application which does not fall, or does not fall exclusively, within or Band 2. A fee calculated at s rate of £120 per hour 2. In paragraph 1, subject to the exception at paragraph 3, “specified activity” (“gweithgaredd penodedig”) means any activity falling within one or more of the following— (a) item 1 (deposits within the UK marine licensing area etc.) of section 66(1) of the Act; (b) item 7 (construction, alteration or improvement of works etc.) of section 66(1) of the Act; (c) item 8 (use of vehicle, vessel, aircraft, marine structure or floating container to remove substances etc.) of section 66(1) of the Act: or (d) item 9 (to carry out any form of dredging etc.) of section 66(1) of the Act but only in so far as item 9 relates to maintenance dredging. 3. Specified activity does not include— (a) any activity to be carried out in the course of a project of a type specified in Annex I to Council Directive 2011/92/EU(1) on the assessment of the effects of certain public and private projects on the environment; (b) any activity to be carried out in the course of a project of a type specified in Annex II to that Directive, if it is likely because of its size, nature or location to have significant effects on the environment; (1) OJ L 26, 28.1.2012, p.1. the descriptions in Band 1 or Band 2 8 9 (c) gweithgaredd y mae asesiad o’r effaith amgylcheddol yn ofynnol mewn cysylltiad ag ef yn rhinwedd rheoliad 5 (gofyniad am asesiad drwy gytundeb) o Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007(1); (d) gweithgaredd sy’n cynnwys eitemau 7 a 9 a ddisgrifir ym mharagraff 2(b) a (d); (e) unrhyw weithgaredd neu weithgareddau, neu fwy nag un gweithgaredd gyda’i gilydd, sydd â chost amcangyfrifedig o fwy na £1,000,000. (1) O.S. 2007/1518; diwygiwyd gan O.S. 2011/735, 1043, 2013/755 a 2015/446. (c) an activity with respect to which an environmental impact assessment is required by virtue of regulation 5 (requirement of assessment by agreement) of the Marine Works (Environmental Impact Assessment) Regulations 2007(1); (d) an activity that involves both items 7 and 9 described in paragraph 2(b) and (d); (e) any activity or activities which has, or, in the case of more than one activity taken together have, an estimated cost of more than £1,000,000. (1) S.I. 2007/1518; amended by S.I. 2011/735, 1043, 2013/755 and 2015/446. 10 ATODLEN 2 Rheoliad 5 Ffioedd sy’n Daladwy ar gyfer Monitro Disgrifiad o’r gwaith monitro Disgrifiad o’r drwydded Y ffi Bodloni amodau’r drwydded Cymeradwyaeth gan yr awdurdod trwyddedu fel sy’n ofynnol gan unrhyw amod o fewn trwydded forol. Trwydded yr oedd y cais ar ei chyfer yn destun ffi Band 1 neu Fand 2 o dan Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn neu os caiff ei rhoi cyn dyddiad y Rheoliadau hyn, drwydded sy’n debyg i honno a fyddai’n destun ffi Band 1 neu Fand 2 o dan Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn. Ffi benodedig o £480 ar gyfer pob amod sy’n gysylltiedig â thrwydded. Trwydded yr oedd y cais ar ei chyfer yn destun ffi Band 3 o dan y Rheoliadau hyn neu os caiff ei rhoi cyn dyddiad y Rheoliadau hyn, drwydded sy’n debyg i honno a fyddai’n destun ffi Band 3 o dan y Rheoliadau hyn. Ffi a gyfrifir ar gyfradd o £120 yr awr. SCHEDULE 2 Regulation 5 Fees Payable for Monitoring Description of monitoring Description of licence Fee Discharge of licence conditions Licensing authority approval as required by any condition within a marine licence. A licence the application for which was subject to a Band 1 or Band 2 fee under Schedule 1 of these Regulations or if granted before the date of these Regulations a licence that is of a similar nature to that which would be subject to a Band 1 or Band 2 fee under Schedule 1 to these Regulations. A fixed fee of £480 for all conditions associated with a licence. A licence the application for which was subject to a Band 3 fee under these Regulations or if granted before the date of these Regulations a licence that is of a similar nature to that which would be subject to a Band 3 fee under these Regulations. A fee calculated at a rate of £120 per hour. 11 Pob gwaith monitro arall Unrhyw waith monitro arall fel y darperir ar ei gyfer yn adran 72A(2)(a), (b) a (3) o’r Ddeddf. Unrhyw drwydded. Ffi a gyfrifir ar gyfradd o £120 yr awr. All other monitoring Any other monitoring as provided for in section 72A(2)(a), (b) and (3) of the Act. Any licence. A fee calculated at a rate of £120 per hour. 12 ATODLEN 3 Rheoliad 6 Ffioedd sy’n Daladwy ar gyfer Amrywio a Throsglwyddo Trwyddedau Disgrifiad o’r amgylchiadau Disgrifiad o’r drwydded Y ffi Categori 1 Amrywio trwydded ar gais y ceisydd pan fo enw’r llestr, rhif cofrestru’r cerbyd, enw neu gyfeiriad yr asiant neu’r contractwr wedi ei ddiwygio neu pan fo diwygiadau gweinyddol tebyg eraill yn cael eu gwneud. Unrhyw drwydded. Ffi o £240 y cais. Categori 2 Amrywio unrhyw ddarpariaeth arall o drwydded pan fo’r awdurdod trwyddedu yn ymgynghori â pherson neu gorff (gan gynnwys ymgynghori mewnol o fewn yr awdurdod trwyddedu) heblaw am ddeiliad y drwydded er mwyn penderfynu pa un ai i amrywio’r Unrhyw drwydded. Ffi a gyfrifir ar gyfradd o £120 yr awr. SCHEDULE 3 Regulation 6 Fees Payable for Variation and Transfer of Licences Description of circumstances Description of licence Fee Category 1 Varying a licence at the request of the applicant where the name of a vessel, the registration number of a vehicle, the name or address of an agent or contractor are amended or other amendments of a similar administrative nature are made. Any licence. A fee of £240 per application. Category 2 Varying any other provision of a licence where the licensing authority consults a person or body (including internal consultation within the licensing authority) other than the holder of the licence in order to determine whether, or how, to vary Any licence. A fee calculated at a rate of £120 per hour. drwydded honno, neu sut i’w hamrywio. that licence. 13 Disgrifiad o’r amgylchiadau Disgrifiad o’r drwydded Y ffi Categori 3 Amrywio unrhyw ddarpariaeth arall o drwydded o dan unrhyw amgylchiadau eraill. Unrhyw drwydded. Ffi o £480. Trosglwyddo Trosglwyddo trwydded o’r trwyddedai i berson arall a’i hamrywio yn unol â hynny. Unrhyw drwydded. Ffi o £480. Description of circumstances Description of licence Fee Category 3 Varying any other provision of a licence in any other circumstances. Any licence. A fee of £480. Transfers Transferring a licence from the licensee to another person and varying it accordingly. Any licence A fee of £480. Argraffwyd a chyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig gan The Stationery Office Limited o dan awdurdod ac arolygiaeth Carol Tullo, Rheolwr Gwasg Ei Mawrhydi ac Argraffydd Deddfau Seneddol y Frenhines. Printed and under the authority and superintendence of Carol Tullo, Controller of Her Majesty’s Stationery Office and Queen’s Printer of Acts of Parliament. © Hawlfraint y Goron 2017h © Crown copyright 201 published in the UK by The Stationery Office Limited 7 £6.00 W2017030619 0 /2017 http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2017/280 3 O F F E R Y N N A U S T A T U D O L C Y M R U 2017 Rhif 280 (Cy. 74) DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU TRWYDDEDU (MOROL), CYMRU LLYGREDD MOROL, CYMRU Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd) (Cymru) 2017 W E L S H S T A T U T O R Y I N S T R U M E N T S 2017 No. 280 (W. 74) ENVIRONMENTAL PROTECTION, WALES LICENSING (MARINE), WALES MARINE POLLUTION, WALES The Marine Licensing (Fees) (Wales) Regulations 2017 9 780348 200805 ISBN 978-0-348-20080-5