Pigs (Records, Identification and Movement) Order 2008 (W.S.I. No. 1742 (W.172) of 2008)
صدر في 2008-07-02 · النص بتاريخ 2026-10-01
القانون العام والإرشادات الرسمية منشورة بوصفها أبحاثاً. ليست مشورة قانونية أو ضريبية أو مالية.
البحث نفسه مكتوب بالإنجليزية. العناوين والوسوم مترجمة؛ أما النتائج والاقتباسات فغير مترجمة.
عن هذا القانون
- اللغة
- English
- النوع
- لائحة
- الدولة
- المملكة المتحدة · Wales
- الموضوعات
- Livestock
- الكلمات المفتاحية
- animal health, data collection/reporting, transport/storage, swine, traceability
أين تقرؤه
لا يوجد رابط مصدر مسجل لهذا القانون.
النص
نص القانون نفسه، مادةً مادة، كما هو محفوظ. لكل مادة رابطها.
W E L S H S TAT U T O RY I N S T R U M E N T S 2008 No. 1742 (W.172) ANIMALS, WALES ANIMAL HEALTH The Pigs (Records, Identification and Movement) (Wales) Order 2008 EXPLANATORY NOTE (This note is not part of the Order) This Order, which applies in relation to Wales, continues to implement Council Directive 92/102/EEC on the identification and registration of animals (OJ No L 355, 5 12 92, p 0032). It revokes and replaces the Pigs (Records, Identification and Movement) (Wales) 2004. The principal change and clarification is that, subject to exceptions for pigs aged under one year, a pig moved from a holding other than a market must be marked with the herdmark of that holding (articles 7 and 8). As before, this Order requires a person keeping pigs on a holding to notify the Welsh Ministers (article 4) and requires records to be kept (article 5 and the Schedule). Articles 6 to 11 require pigs to be marked with ear tags or tattoos, and specify what the identification has to contain depending upon the circumstances. Articles 12 to 14 deal with the accompanying documentation that is necessary when the pigs are moved. This Order is enforced by the local authority (article 18). Any breach of this Order is an offence under section 73 of the Animal Health Act 1981, and is punishable in accordance with section 75 of that Act. O F F E RY N N A U S TAT U D O L C Y M R U 2008 Rhif 1742 (Cy.172) ANIFEILIAID, CYMRU IECHYD ANIFEILIAID Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008 NODYN ESBONIADOL (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn parhau i weithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ar adnabod a chofrestru anifeiliaid (OJ Rhif L 355, 5.12.92, t.0032). Mae'n dirymu ac yn disodli Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2004. Y prif newid ac eglurhad yw bod yn rhaid i fochyn a symudir o ddaliad ac eithrio marchnad, yn ddarostyngedig i eithriadau o ran moch nad ydynt eto'n flwydd oed, fod wedi ei farcio â'r marc cenfaint ar gyfer y daliad hwnnw (erthyglau 7 ac 8). Fel o'r blaen, mae'r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n cadw moch ar ddaliad hysbysu Gweinidogion Cymru (erthygl 4) ac yn ei gwneud yn ofynnol i gofnodion gael eu cadw (erthygl 5 a'r Atodlen). Mae erthyglau 6 i 11 yn ei gwneud yn ofynnol i foch gael eu marcio â thagiau clust neu datŵs, ac maent yn pennu beth, a dibynnu ar yr amgylchiadau, y mae'n rhaid ei gynnwys yn y marciau adnabod. Mae erthyglau 12 i 14 yn ymdrin â'r ddogfennaeth y mae'n angenrheidiol iddi fynd gyda'r moch pan gânt eu symud. Mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol (erthygl 18). Mae torri'r Gorchymyn hwn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac mae'n dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno. 1 O F F E RY N N A U S TAT U D O L C Y M R U 2008 Rhif 1742 (Cy.172) ANIFEILIAID, CYMRU IECHYD ANIFEILIAID Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008 Gwnaed 2 Gorffennaf 2008 Yn dod i rym 24 Gorffennaf 2008 CYNNWYS RHAN 1 Rhagarweiniad 1. Teitl, cymhwyso a chychwyn 2. Dehongli 3. Hysbysiadau etc RHAN 2 Cofnodion 4. Hysbysu gan ddaliadau 5. Cofnodion RHAN 3 Adnabod 6. Tagiau clust a thatŵs 7. Adnabod moch a symudir oddi ar ddaliad 8. Eithriad ar gyfer mochyn nad yw eto'n flwydd oed 9. Gofynion ychwanegol ar gyfer allforio 10. Gofynion ychwanegol ar gyfer symud moch i sioeau etc 11. Adnabod moch a symudir i ddaliad o fan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd W E L S H S TAT U T O RY I N S T R U M E N T S 2008 No. 1742 (W.172) ANIMALS, WALES ANIMAL HEALTH The Pigs (Records, Identification and Movement) (Wales) Order 2008 Made 2 July 2008 Coming into force 24 July 2008 CONTENTS PART 1 Introduction 1. Title, application and commencement 2. Interpretation 3. Notifications, etc PART 2 Records 4. Notification of holdings 5. Records PART 3 Identification 6. Ear tags and tattoos 7. Identification of pigs moved off a holding 8. Exception for a pig less than one year old 9. Additional requirements for export 10. Additional requirements for movements of pigs to shows, etc 11. Identification of pigs moved on to a holding from outside the European Union 2 RHAN 4 Symudiadau 12. Symud moch 13. Trwyddedau cerdded ar gyfer moch anwes 14. Daliadau cymeradwy RHAN 5 Amrywiol 15. Dileu neu ddifrodi marc adnabod 16. Rhoi marc adnabod newydd yn lle hen un 17. Cyflwyno dogfennau a chofnodion 18. Gorfodi 19. Dirymu YR ATODLEN - Cofnod Symudiadau'r Daliad Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) ac a freinir bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: RHAN 1 Rhagarweiniad Teitl, cymhwyso a chychwyn 1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 24 Gorffennaf 2008. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn— ystyr "ceidwad" ("keeper") yw unrhyw berson sydd â gofal a rheolaeth dros foch, boed hynny ar sail dros dro neu barhaol, ond nid yw'n cynnwys person nad yw ond yn cludo moch; ystyr "daliad" ("holding") yw unrhyw sefydliad, adeiladwaith neu, yn achos fferm awyr agored, unrhyw fan lle y mae moch yn cael eu dal, eu cadw neu eu trafod; mae i "marc cenfaint" ("herdmark") yr ystyr a roddir yn erthygl 4(2). PART 4 Movements 12. Movement of pigs 13. Walking licences for pet pigs 14. Approved holdings PART 5 Miscellaneous 15. Removing or defacing an identification mark 16. Replacement of an identification mark 17. Production of documents and records 18. Enforcement 19. Revocations SCHEDULE - Holding Movement Record The Welsh Ministers, in exercise of the powers conferred by sections 1 and 8(1) of the Animal Health Act 1981 and now vested in them(1), make the following Order. PART 1 Introduction Title, application and commencement 1.—(1) The title of this Order is the Pigs (Records, Identification and Movement) Order 2008; (2) This Order applies in relation to Wales and comes into force on 24 July 2008. Interpretation 2. In this Order— "herdmark" ("marc cenfaint") has the meaning given in article 4(2); "holding" ("daliad") means any establishment, construction or, in the case of an open air farm, any place in which pigs are held, kept or handled; "keeper" ("ceidwad") means any person having care and control of pigs, whether on a temporary or permanent basis, but does not include a person who only transports pigs. (1) 1981 c. 22. The functions of "the Ministers", so far as exercisable in relation to Wales, were transferred to the National Assembly for Wales by virtue of SI 1999/672. The functions of a Minister of the Crown, so far as exercisable in relation to Wales, were transferred to the National Assembly for Wales, by virtue of SI 2004/3044. Section 162 of, and Schedule 11 to, the Government of Wales Act 2006 c. 32; vest these functions in the Welsh Ministers. 3 (1) 1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers", i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd OS 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau un o Weinidogion y Goron, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd OS 2004/3044. Mae adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 p.32 ac Atodlen 11 iddi yn breinio'r swyddogaethau hyn yng Ngweinidogion Cymru. Hysbysiadau, etc 3. Rhaid i unrhyw hysbysiad, trwydded, awdurdodiad neu gymeradwyaeth o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir atal, diwygio neu ddirymu unrhyw un o'r rhain yn ysgrifenedig ar unrhyw amser. RHAN 2 Cofnodion Hysbysu gan ddaliadau 4.—(1) Rhaid i feddiannwr daliad sy'n dechrau cadw moch ar y daliad hwnnw ac unrhyw berson sy'n cymryd meddiannaeth o ddaliad lle y cedwir moch hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth ganlynol o fewn un mis— (a) eu henw a'u cyfeiriad; a (b) cyfeiriad y daliad. (2) Pan fydd hysbysiad o dan baragraff (1) yn dod i law Gweinidogion Cymru rhaid iddynt ddyroddi cod alffaniwmerig ar gyfer pob cenfaint o foch ar y daliad (y "marc cenfaint"). (3) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid i'r wybodaeth ym mharagraff (1) o fewn un mis ar ôl i'r newid gael ei wneud. Cofnodion 5.—(1) O fewn 36 awr ar ôl symud mochyn i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r ceidwad lenwi'r ffurflen yn yr Atodlen. (2) O leiaf unwaith y flwyddyn rhaid i'r ceidwad gofnodi uchafswm nifer y moch a gedwir fel arfer ar y daliad. (3) Rhaid i'r ceidwad gadw'r cofnodion am 6 blynedd o leiaf. RHAN 3 Adnabod Tagiau clust a thatŵs 6.—(1) Rhaid i dag clust — (a) bod yn hawdd ei ddarllen drwy gydol oes y mochyn; Notifications, etc 3. Any notification, licence, authorisation or approval under this Order must be in writing, may be subject to conditions and may be suspended, amended or revoked in writing at any time. PART 2 Records Notification of holdings 4.—(1) An occupier of a holding who begins to keep pigs on that holding, and any person who takes over the occupation of a holding where pigs are kept, must within notify the Welsh Ministers within one month of— (a) his or her name and address; and (b) the address of the holding. (2) When the Welsh Ministers receive notification under paragraph (1) they must issue an alpha-numeric code for each herd of pigs on the holding (the "herdmark"). (3) The occupier must notify the Welsh Ministers of any change to the information in paragraph (1) within one month of the change. Records 5.—(1) Within 36 hours of the movement of a pig on or off a holding, the keeper must complete the form in the Schedule. (2) At least once a year the keeper must record the maximum number of pigs normally kept on the holding. (3) The keeper must keep the records for at least 6 years. PART 3 Identification Ear tags and tattoos 6.—(1) An ear tag must be— (a) easy to read during the pig's lifetime; 4 (b) bod wedi ei wneud naill ai o fetal neu o blastig neu o gyfuniad o fetal a phlastig; (c) bod yn amhosibl ymhél ag ef; (ch) bod yn amhosibl ei ailddefnyddio; (d) gallu gwrthsefyll gwres yn ddigonol fel na fydd prosesu'r carcas yn sgil cigydda yn difrodi'r tag clust na'r wybodaeth sydd wedi ei hargraffu neu ei stampio arno; (dd) fod wedi ei ddylunio i barhau i fod ynghlwm wrth y mochyn heb beri niwed iddo. (2) Rhaid rhoi tatŵ naill ai gan ddefnyddio gefel tatwio, ac yn yr achos hwn rhaid iddo fod ar glust, neu gan ddefnyddio offer slapfarcio, ac yn yr achos hwn rhaid ei roi ar ddwy ysgwydd y mochyn. (3) Caiff ceidwad farcio mochyn ag unrhyw wybodaeth arall, neu ychwanegu gwybodaeth arall ar y tag clust neu at y tatŵ a ddarperir ar yr amod y gellir gwahaniaethu'n glir rhwng yr wybodaeth ychwanegol a'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn. Adnabod moch a symudir oddi ar ddaliad 7.—(1) Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad oni bai bod ganddo— (a) tag clust ac arno'r llythrennau "UK" ac, yn eu dilyn, y marc cenfaint ar gyfer y daliad y symudir y mochyn ohono; neu (b) tatŵ yn dangos y marc cenfaint hwnnw (ynghyd â'r llythrennau "UK" neu hebddynt). (2) Yn achos marchnad— (a) caniateir symud y mochyn oddi yno os yw wedi ei farcio â'r marc cenfaint ar gyfer y daliad y daeth ohono i gyrraedd y farchnad; (b) os nad yw wedi ei farcio'n gywir pan fydd yn cyrraedd y farchnad, caiff ceidwad gywiro'r marciau adnabod er mwyn marcio'r mochyn â marc y daliad y daeth ohono i gyrraedd y farchnad, ond os na fydd y ceidwad yn gwneud hynny ni chaniateir ond ei ddychwelyd i'r daliad y daeth ohono. Eithriad ar gyfer mochyn nad yw eto'n flwydd oed 8.—(1) Nid yw erthygl 7 yn gymwys mewn perthynas â mochyn nad yw eto'n flwydd oed ar yr amod ei fod wedi ei farcio â marc dros dro sydd— (a) naill ai ar ei ben ei hun neu drwy gyfeirio at ddogfen sy'n mynd gyda'r mochyn pan gaiff ei symud, yn galluogi'r daliad y symudwyd y mochyn ohono ddiwethaf i gael ei adnabod; a (b) yn para hyd oni fydd y mochyn yn cyrraedd ei gyrchfan. (2) Nid yw'r eithriad hwn yn gymwys mewn perthynas â mochyn a symudir— (b) made of either metal or plastic or a combination of metal and plastic; (c) tamper-resistant; (d) incapable of re-use; (e) sufficiently heat-resistant that neither the ear tag nor the information printed or stamped on it can be damaged by the processing of the carcase following slaughter; (f) designed to remain attached to the pig without harming it. (2) A tattoo must be applied either by tattoo forceps, in which case it must be on an ear, or by slap marking equipment, in which case it must be on each shoulder. (3) A keeper may mark a pig with any further information, or add further information to the ear tag or tattoo provided that the further information is clearly distinguished from the information required under this Order. Identification of pigs moved off a holding 7.—(1) No person may move a pig off a holding unless it has— (a) an ear tag with the letters "UK" followed by the herdmark of the holding from which it is being moved; or (b) a tattoo showing that herdmark (with or without the letters "UK"). (2) In the case of a market— (a) the pig may be moved off, if it is marked with the herdmark of the holding from which it arrived; (b) if it is not correctly identified when it arrives at a market, a keeper may correct the identification so that it is identified with the holding from which it arrived, but if he or she does not do so it may only be returned to the holding it came from. Exception for a pig less than one year old 8.—(1) Article 7 does not apply in relation to a pig less than one year old provided that it is identified with a temporary mark that— (a) either by itself or by reference to a document accompanying the pig during the movement, enables the holding from which the pig was last moved to be identified; and (b) lasts until the pig reaches its destination. (2) This exception does not apply in relation to a pig being moved— 5 (a) i farchnad; (b) i ladd-dy; (c) at ddibenion masnachu neu allforio o fewn y Gymuned; neu (ch) i sioe, etc. yn unol ag erthygl 10. Gofynion ychwanegol ar gyfer allforio 9. Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad at ddibenion masnachu neu allforio o fewn y Gymuned onid oes ganddo dag clust neu datŵ sy'n dwyn y llythrennau "UK" ac, yn eu dilyn, farc cenfaint a rhif adnabod unigol unigryw. Gofynion ychwanegol ar gyfer symud moch i sioeau, etc 10. Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad — (a) i sioe neu arddangosfa; neu (b) at ddibenion bridio gyda'r bwriad o ddychwelyd y mochyn i'r daliad y cafodd ei symud ohono, onid yw wedi ei farcio'n unol ag erthygl 7 ac, at hynny, wedi ei farcio â marc adnabod sy'n cynnwys rhif adnabod unigol unigryw. Adnabod moch a symudir i ddaliad o fan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd 11.—(1) Rhaid i berson sy'n mewnforio mochyn o fan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd atodi tag clust i'r mochyn neu roi arno datŵ a rhaid i'r tag clust ar tatŵ gynnwys yr wybodaeth ganlynol, yn y drefn a ganlyn— (a) y llythrennau "UK"; (b) y marc cenfaint ar gyfer y genfaint y daw'r mochyn a allforiwyd i berthyn iddi; (c) unrhyw wybodaeth arall, os bydd y ceidwad yn dymuno cynnwys y cyfryw wybodaeth; ac (ch) y llythyren "F". (2) Rhaid atodi'r tag clust i'r mochyn neu roi arno'r tatŵ o fewn 30 o ddiwrnodau ar ôl iddo gyrraedd daliad y gyrchfan, a beth bynnag, cyn iddo gael ei symud o'r daliad hwnnw. RHAN 4 Symudiadau Symud moch 12.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo moch gario dogfen, a lofnodwyd gan y ceidwad, sy'n pennu— (a) to a market; (b) to a slaughterhouse; (c) for the purposes of intra-Community trade or export; or (d) to a show, etc. in accordance with article 10. Additional requirements for export 9. No person may move a pig off a holding for the purposes of intra-Community trade or export unless it has an ear tag or tattoo with the letters "UK" followed by a herdmark and a unique individual identification number. Additional requirements for movements of pigs to shows, etc 10. No person may move a pig off a holding— (a) to a show or exhibition; or (b) for breeding purposes with the intention of returning the pig to the holding from which it was moved, unless it is marked in accordance with article 7 and, in addition, with an identification mark that includes a unique individual identification number. Identification of pigs moved on to a holding from outside the European Union 11.—(1) Any person importing a pig from outside the European Union must apply an ear tag or a tattoo to the pig containing the following information, in the following order— (a) the letters "UK"; (b) the herdmark of the herd into which the imported pig is introduced; (c) any other information, if the keeper wishes to apply such information; and (d) the letter "F". (2) The ear tag or tattoo must be applied to the pig within 30 days of its arrival at the holding of destination, and in any event, before it is moved from that holding. PART 4 Movements Movement of pigs 12.—(1) Any person transporting pigs must carry a document, signed by the keeper, that specifies— 6 (a) y cyfeiriad, gan gynnwys cod post a rhif CPH y daliadau y mae'r mochyn yn cael ei symud ohonynt ac iddynt; (b) dyddiad symud y moch neu'r mochyn; (c) nifer y moch y mae'r ddogfen honno'n eu cwmpasu; (ch) marc adnabod pob un o'r moch a symudir (yn achos symud a bennir yn erthygl 9 neu 10, rhaid i hwn gynnwys y rhif adnabod unigol unigryw y mae'r erthyglau hynny'n ei wneud yn ofynnol); ac (d) yn achos symud mochyn o farchnad, rhifau lot y moch sy'n cael eu symud. (2) Rhaid i'r person y cyfeirir ato ym mharagraff (1) roi'r ddogfen i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan a rhaid i'r ceidwad ei chadw am 6 mis o leiaf. (3) Rhaid i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at yr awdurdod lleol o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r mochyn gyrraedd. (4) Rhaid i geidwad mochyn sy'n cael ei symud y tu allan i Gymru anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at yr awdurdod lleol ar gyfer y daliad traddodi. (5) Yn yr erthygl hon ystyr "rhif CPH" yw'r rhif y daliad ym mhlwyf y sir a roddir i ddaliad neu ran o ddaliad gan Weinidogion Cymru. Trwyddedau cerdded i foch anwes 13. Caiff Gweinidogion Cymru roi trwydded gerdded i geidwad mochyn anwes i ganiatáu iddo fynd â'r mochyn am dro oddi ar y daliad heb gydymffurfio ag erthygl 5 neu 12, ond rhaid i'r person sy'n mynd â'r mochyn am dro gario copi o'r drwydded tra bydd allan am dro gyda'r mochyn. Daliadau cymeradwy 14.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo daliad at ddibenion symud moch a fwriedir ar gyfer bridio neu besgi. (2) Rhaid i'r gymeradwyaeth bennu pa ddaliadau y caniateir symud moch ohonynt a pha ddaliadau y caniateir eu symud iddynt. (3) Nid yw symud mochyn rhwng daliadau sydd wedi eu cymeradwyo o dan yr erthygl hon yn sbarduno'r cyfnod segur yng Ngorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003(1). (a) the address, including postcode and CPH number of the holdings from, and to which, the pig is being moved; (b) the date of the movement; (c) the number of pigs that the document covers; (d) the identification mark of each of the pigs moved (in the case of a movement specified in article 9 or 10, this must include the unique individual identification number required by those articles); and (e) in the case of a movement from a market, the lot numbers of the pigs being moved. (2) The person referred to in paragraph (1) must give the document to the keeper at the holding of destination, who must keep it for at least 6 months. (3) The keeper at the holding of destination must, within 3 days of the arrival of a pig, send a copy of the document referred to in paragraph (1) to the local authority. (4) The keeper of a pig being moved outside Wales must send a copy of the document referred to in paragraph (1) to the local authority for the consigning holding. (5) In this article "CPH number" means the county parish holding number assigned to a holding or part of a holding by the Welsh Ministers. Walking licences for pet pigs 13. The Welsh Ministers may grant a walking licence to a keeper of a pet pig allowing him or her to take the pig for a walk off the holding without complying with article 5 or 12, but the person walking the pig must carry a copy of the licence throughout the walk. Approved holdings 14.—(1) The Welsh Ministers may approve a holding for the purposes of movements of pigs intended for breeding or growing. (2) The approval must specify which holdings pigs may be moved from and which holdings they may be moved on to. (3) A movement of a pig between holdings approved under this article does not trigger the standstill period in the Disease Control (Wales) Order 2003(1). (1) O.S. 2003/1966 (Cy.211). (1) S. I. 2003/1966 (W. 211). 7 RHAN 5 Amrywiol Dileu neu ddifrodi marc adnabod 15. Ni chaiff neb, oni chaiff ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru, ddileu neu ddifrodi tag clust a atodir neu datŵ a roddir o dan y Gorchymyn hwn. Rhoi marc adnabod newydd yn lle hen un 16.—(1) Ni chaiff neb, oni chaiff ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru, roi marc adnabod newydd yn lle'r marc adnabod a atodir neu a roddir o dan y Gorchymyn hwn oni bai— (a) bod y marc wedi dod yn amhosibl ei ddarllen; (b) bod y marc wedi ei ddileu am resymau lles; neu (c) bod y marc wedi mynd ar goll. (2) Rhaid i unrhyw berson sy'n rhoi marc adnabod newydd yn lle hen un naill ai— (a) defnyddio marc adnabod union debyg; neu (b) defnyddio marc adnabod newydd a chroes gyfeirio'r marc adnabod newydd â'r marc adnabod gwreiddiol yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 5. Cyflwyno dogfennau a chofnodion 17. Caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gofnod a wneir o dan y Gorchymyn hwn gael ei gyflwyno os gwneir cais am hynny ac i gopi neu allbrint ohono gael ei wneud. Gorfodi 18.—(1) Gorfodir y Gorchymyn hwn gan yr awdurdod lleol. (2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu ag unrhyw achos penodol, y byddant hwy yn gorfodi'r Gorchymyn hwn yn lle'r awdurdod lleol. Dirymu 19. Dirymir Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 2004(1) mewn perthynas â Chymru'n unig. PART 5 Miscellaneous Removing or defacing an identification mark 15. No person may, unless authorised by the Welsh Ministers, remove or deface an ear tag or tattoo applied under this Order. Replacement of an identification mark 16.—(1) No person may, unless authorised by the Welsh Ministers, replace an identification mark applied or attached under this Order unless it has— (a) become illegible; (b) been removed for welfare reasons; or (c) been lost. (2) Any person replacing an identification mark must either— (a) apply an identical identification mark; or (b) apply a new identification mark and cross refer the new identification mark with the original identification mark in the record kept under article 5. Production of documents and records 17. An inspector may require any record made under this Order to be produced on demand and a copy or printout of it to be made. Enforcement 18.—(1) This Order is enforced by the local authority. (2) The Welsh Ministers may direct, in relation to cases of a particular description or any particular case, that they will enforce this Order instead of the local authority. Revocations 19.The Pigs (Records, Identification and Movement) (Wales) Order 2004(1) is revoked. (1) O. S. 2004/996 (Cy. 104). (1) S. I. 2004/996 (W. 104). 8 Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru 2 Gorffennaf 2008 Minister for Rural Affairs, one of the Welsh Ministers 2 July 2008 9 Elin Jones YR ATODLEN Erthygl 5 Cofnod Symudiadau'r Daliad Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008 Enw a chyfeiriad y person sy'n cadw'r cofnod Dyddiad symud Rhif adnabod neu Nifer y moch Daliad y Daliad y symudwyd y y mochyn/moch farc dros dro symudwyd y mochyn/moch iddo mochyn/moch ohono 10 SCHEDULE Article 5 Holding Movement Record The Pigs (Records, Identification and Movement) (Wales) Order 2007 Name and address of the person keeping the record Date of movement The identification Number of pigs Holding from Holding to which number or which moved moved temporary mark 11 W E L S H S TAT U T O RY I N S T R U M E N T S 2008 No. 1742 (W.172) ANIMALS, WALES ANIMAL HEALTH The Pigs (Records, Identification and Movement) (Wales) Order 2008 O F F E RY N N A U S TAT U D O L C Y M R U 2008 Rhif 1742 (Cy.172) ANIFEILIAID, CYMRU IECHYD ANIFEILIAID Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008 © h Hawlfraint y Goron 2008 Argraffwyd a chyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig gan The Stationery Office Limited o dan awdurdod ac arolygiaeth Carol Tullo, Rheolwr Gwasg Ei Mawrhydi ac Argraffydd Deddfau Seneddol y Frenhines. © Crown copyright 2008 Printed and Published in the UK by the Stationery Office Limited under the authority and superintendence of Carol Tullo, Controller of Her Majesty’s Stationery Office and Queen’s Printer of Acts of Parliament. £3.00 W342/07/08 ON