تخطَّ إلى المحتوى
Nelum
قوانين المملكة المتحدة

Agricultural Holdings (Units of Production) (Wales) Order 2015 (S.I. No. 1020 (W. 73) of 2014)

صدر في 2015-03-27 · النص بتاريخ 2026-10-01

القانون العام والإرشادات الرسمية منشورة بوصفها أبحاثاً. ليست مشورة قانونية أو ضريبية أو مالية.

البحث نفسه مكتوب بالإنجليزية. العناوين والوسوم مترجمة؛ أما النتائج والاقتباسات فغير مترجمة.

research.laws.repealedOn

عن هذا القانون

اللغة
English
النوع
لائحة
الدولة
المملكة المتحدة · Wales
الموضوعات
Agricultural and rural development
الكلمات المفتاحية
less favoured areas, agricultural land, mountain area, subsidy/incentive

أين تقرؤه

    لا يوجد رابط مصدر مسجل لهذا القانون.

النص

نص القانون نفسه، مادةً مادة، كما هو محفوظ. لكل مادة رابطها.

  1. 2015 Rhif 1020 (Cy. 73) LANDLORD A THENANT, CYMRU Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2015 NODYN ESBONIADOL (Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn pennu'r swm sydd i'w ystyried yn incwm blynyddol net o bob uned o'r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2014 i 11 Medi 2015, at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (“Deddf 1986”). Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/41 (Cy.3)). Mae'n ofynnol asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol er mwyn penderfynu pa un a yw'r tir dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2). Ystyr “uned fasnachol o dir amaethyddol” yw uned o dir amaethyddol sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanred enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd llawnamser sy'n 20 mlwydd oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, pa bryd bynnag y bydd math penodol o ddefnydd ffermio a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn berthnasol i'r asesiad o allu cynhyrchiol y tir dan sylw, mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu mai'r unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3, yn eu trefn, fydd sail yr asesiad hwnnw. 2015 No. 1020 (W. 73) LANDLORD AND TENANT, WALES The Agricultural Holdings (Units of Production) (Wales) Order 2015 EXPLANATORY NOTE (This note is not part of the Order) This Order prescribes units of production for the assessment of the productive capacity of agricultural land situated in Wales and sets out the amount which is to be regarded as the net annual income from each such unit for the year 12 September 2014 to 11 September 2015 for certain purposes of the Agricultural Holdings Act 1986 (“the 1986 Act”). This Order revokes the Agricultural Holdings (Units of Production) (Wales) Order 2014 (S.I. 2014/41 (W.3)). An assessment of the productive capacity of agricultural land is required in determining whether or not the land in question is a “commercial unit of agricultural land” for the purposes of the succession provisions in the 1986 Act: see in particular sections 36(3) and 50(2). A “commercial unit of agricultural land” is a unit of agricultural land which, when farmed under competent management, is capable of producing a net annual income which is not less than the aggregate of the average annual earnings of two full time male agricultural workers aged 20 years or over (paragraph 3 of Schedule 6 to the 1986 Act). Article 2 of this Order provides that, in determining this annual income figure, whenever a particular farming use mentioned in column 1 of the Schedule is relevant to the assessment of the productive capacity of the land in question, the units of production and the net annual income specified in columns 2 and 3 respectively will form the basis of that assessment. O F F E R Y N N A U S T A T U D O L C Y M R U W E L S H S T A T U T O R Y I N S T R U M E N T S Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd, yn 2013, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 (OJ Rhif L 30, 31.1.2009, t.16). Rhoddir ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir dan anfantais ddifrifol, tir dan anfantais a thir arall. Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn oherwydd na ragwelir unrhyw effaith ar fusnes na'r sector preifat na'r sector gwirfoddol. This Order includes net annual income figures for land which was, in 2013, an eligible hectare for the purposes of Council Regulation (EC) No 73/2009 (OJ No L 30, 31.1.2009, p.16). There are separate figures in the Schedule for severely disadvantaged land, disadvantaged land and other land. A regulatory impact assessment has not been produced for this instrument as no impact on business or the private or voluntary sector is foreseen. 2 http://www.legislation.gov.uk/european/regulation/2009/0073 http://www.legislation.gov.uk/european/regulation/2009/0073 O F F E R Y N N A U S T A T U D O L C Y M R U 2015 Rhif 1020 (Cy. 73) LANDLORD A THENANT, CYMRU Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2015 Gwnaed 27 Mawrth 2015 Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 31 Mawrth 2015 Yn dod i rym 21 Ebrill 2015 Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn. Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2015, mae'n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 21 Ebrill 2015. (2) Yn y Gorchymyn hwn— ystyr “ardaloedd llai ffafriol” (“less favoured areas”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol; mae i “hectar cymwys” yr un ystyr a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 34(2) o Reoliad y Cyngor 73/2009; ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw'r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1999, (1) 1986 p.5; diffinnir “the Minister” yn adran 96(1) o’r Ddeddf honno. (2) Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p.5) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno. W E L S H S T A T U T O R Y I N S T R U M E N T S 2015 No. 1020 (W. 73) LANDLORD AND TENANT, WALES The Agricultural Holdings (Units of Production) (Wales) Order 2015 Made 27 March 2015 Laid before the National Assembly for Wales 31 March 2015 Coming into force 21 April 2015 The Welsh Ministers, in exercise of the powers conferred by paragraph 4 of Schedule 6 to the Agricultural Holdings Act 1986(1) and now vested in them(2), make the following Order. Title, commencement, application and interpretation 1.—(1) The title of this Order is The Agricultural Holdings (Units of Production) (Wales) Order 2015, it applies in relation to Wales, and comes into force on 21 April 2015. (2) In this Order— “Council Regulation 73/2009” (“Rheoliad y Cyngor 73/2009”) means Council Regulation (EC) No. 73/2009 establishing common rules for direct support schemes for farmers under the common agricultural policy and establishing certain support schemes for farmers, and amending and repealing certain Regulations(3); (1) 1986 c.5; section 96(1) of that Act defines “the Minister”. (2) Functions conferred under the Agricultural Holdings Act 1986 (c.5) were transferred to the National Assembly for Wales by article 2 of and Schedule 1 to the National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999 (S.I. 1999/672). Those functions are now exercisable by the Welsh Ministers by virtue of section 162 of, and paragraph 30 of Schedule 11 to, the Government of Wales Act 2006 (c. 32). (3) OJ No L 30, 31.1.2009, p.16, repealed by Regulation (EU) No 1307/2013 of the European Parliament and of the Council (OJ No L 347, 20/12/2013, p.608).and last amended by Commission Implementing Regulation (EU) No 1310/2013 (OJ No L 347, 20/12/2013, p.865). 3 sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y naill gyfrol a'r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ; ystyr “Rheoliad y Cyngor 73/2009” (“Council Regulation 73/2009”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin, ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio ac yn diddymu Rheoliadau penodol(1); ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n las ar y mapiau dynodedig; ac ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw'r ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n binc ar y mapiau dynodedig. Asesu gallu cynhyrchiol tir 2.—(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986. (2) Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o’r cofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yna— (a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a (b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 12 Medi 2014, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i'r Atodlen honno. (1) OJ Rhif L 30, 31.1.2009, t.16, a ddirymwyd gan Reoliad y Senedd Ewropeaidd a’r Cyngor (EU) Rhif 1307/2013 (OJ Rhif L 347, 20/12/2013, t.608) ac a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 1310/2013 (OJ Rhif L 347, 20/12/2013, t.865). “designated maps” (“mapiau dynodedig”) means the two volumes of maps numbered 1 and 2 each volume being marked “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” and with the number of the volume dated 20 May 1999 and signed by the Secretary of State for Wales and deposited at the offices of the Welsh Government, Cathays Park, Cardiff, CF10 3NQ; “disadvantaged land” (“tir dan anfantais”) (except in the expression “severely disadvantaged land”) means any area of land shown coloured blue on the designated maps; “eligible hectare” (“hectar cymwys”) has the same meaning as in Article 34(2) of Council Regulation 73/2009; “less favoured area” (“ardal lai ffafriol”) means land that is disadvantaged or severely disadvantaged; “severely disadvantaged land” (“tir dan anfantais ddifrifol”) means the area of land shown coloured pink on the designated maps. Assessment of productive capacity of land 2.—(1) Paragraphs (2) and (3) have effect for the purpose of the assessment of the productive capacity of a unit of agricultural land situated in Wales, in order to determine whether that unit is a commercial unit of agricultural land within the meaning of paragraph 3(1) of Schedule 6 to the Agricultural Holdings Act 1986. (2) Where the land in question is capable, when farmed under competent management, of being used to produce any livestock, farm arable crop, outdoor horticultural crop or fruit as is mentioned in any of the entries 1 to 3 in column 1 of the Schedule to this Order, then— (a) the unit of production prescribed in relation to that use of the land is the unit in the entry in column 2 of that Schedule opposite to that entry, and (b) the amount determined, for the period of 12 months beginning with 12 September 2014, as the net annual income from that unit of production in that period is the amount in the entry in column 3 of that Schedule opposite to that entry as read with any relevant note to that Schedule. 4 http://www.legislation.gov.uk/european/regulation/2009/0073 http://www.legislation.gov.uk/european/regulation/2009/0073 (3) Os yw tir sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys yn hectar cymwys yn 2013 (gweler cofnod 4 yng ngholofn 1), yna— (a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a (b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2014, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw. Dirymu 3. Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2014(1). Rebecca Evans Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru 27 Mawrth 2015 (1) O.S. 2014/41 (Cy.3). (3) Where land capable, when farmed under competent management, of producing a net annual income was an eligible hectare in 2013 (see entry 4 in column 1), then— (a) the unit of production prescribed in relation to that use of the land is the unit in the entry in column 2 of that Schedule opposite to that entry, and (b) the amount determined, for the period of 12 months beginning with 12 September 2014, as the net annual income from that unit of production in that period is the amount in the entry in column 3 of that Schedule opposite to that entry. Revocation 3. The Agricultural Holdings (Units of Production) (Wales) Order 2014 (1) is revoked. Deputy Minister for Farming and Food, under authority of the Minister for Natural Resources, one of the Welsh Ministers 27 March 2015 (1) S.I. 2014/41 (W.3). 5 YR ATODLEN Erthygl 2 UNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENNU INCWM BLYNYDDOL NET Colofn 1 Defnydd ffermio Colofn 2 Uned gynhyrchu Colofn 3 Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£) 1. Da byw Buchod godro buwch 530 Buchod bridio cig eidion: ar dir mewn ardal lai ffafriol buwch –82 ar dir arall buwch –39 Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) y pen 40(1) Buchod llaeth i lenwi bylchau y pen 102(2) Mamogiaid: ar dir mewn ardal lai ffafriol mamog –17 ar dir arall mamog –4 Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) y pen 4.70 Moch: hychod a banwesod torrog hwch neu fanwes 220 moch porc y pen 7.50 moch torri y pen 10.40 moch bacwn y pen 13.10 Dofednod: ieir dodwy aderyn 3.20 brwyliaid aderyn 0.50 cywennod ar ddodwy aderyn 0.30 Tyrcwn Nadolig aderyn 4.70 2. Cnydau âr fferm Haidd hectar 127 Ffa hectar 290 Rêp had olew hectar 242 Pys sych hectar 100 Tatws: cynnar cyntaf hectar 1700 prif gnwd (gan gynnwys hadyd) hectar 3610 Betys siwgr hectar 750 Gwenith hectar 400 3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau Ffrwythau’r berllan hectar 3100 Ffrwythau meddal hectar 9780 4. Hectarau cymwys Tir a oedd, yn 2013, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 73/2009 tir dan anfantais ddifrifol hectar 95.07 tir dan anfantais hectar 126.67 pob tir arall hectar 63.16 (1) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid y byddid yn eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o'r ffigur hwn. (2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid (faint bynnag fo'u hoed) y byddid yn eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o'r ffigur hwn. 6 © Hawlfraint y Goron 2015h Argraffwyd a chyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig gan The Stationery Office Limited o dan awdurdod ac arolygiaeth Carol Tullo, Rheolwr Gwasg Ei Mawrhydi ac Argraffydd Deddfau Seneddol y Frenhines. SCHEDULE Article 2 PRESCRIBED UNITS OF PRODUCTION AND DETERMINATION OF NET ANNUAL INCOME Column 1 Farming use Column 2 Unit of production Column 3 Net annual income from unit of production (£) 1. Livestock Dairy cows cow 530 Beef breeding cows: on land in a less favoured area cow -82 on other land cow -39 Beef fattening cattle (semi-intensive) head 40(1) Dairy replacements head 102(2) Ewes: on land in a less favoured area ewe -17 on other land ewe -4 Store lambs (including ewe lambs sold as shearlings) head 4.70 Pigs: sows and gilts in pig sow or gilt 220 porker head 7.50 cutter head 10.40 bacon head 13.10 Poultry: laying hens bird 3.20 broilers bird 0.50 point-of-lay pullets bird 0.30 Christmas turkeys bird 4.70 2. Farm arable crops Barley hectare 127 Beans hectare 290 Oilseed rape hectare 242 Dried peas hectare 100 Potatoes: first early hectare 1700 maincrop (including seed) hectare 3610 Sugar beet hectare 750 Wheat hectare 400 3. Outdoor horticultural crops and fruit Orchard fruit hectare 3100 Soft fruit hectare 9780 4. Eligible hectares Land which was in 2013, an eligible hectare for the purposes of Council Regulation 73/2009 severely disadvantaged land hectare 95.07 disadvantaged land hectare 126.67 all other land hectare 63.16 (1) This is the figure for animals which would be kept for 12 months. In the case of animals kept for less than 12 months a pro-rata adjustment of this figure is to be made. (2) This is the figure for animals (irrespective of age) which would be kept for 12 months. In the case of animals kept for less than 12 months a pro-rata adjustment of this figure is to be made. 7 © Crown copyright 201 Printed and Published in the UK by the Stationery Office Limited under the authority and superintendence of Carol Tullo, Controller of Her Majesty’s Stationery Office and Queen’s Printer of Acts of Parliament. 5 £6.00 ONW2262/0 /15 O F F E R Y N N A U S T A T U D O L C Y M R U 2015 Rhif 1020 (Cy. 73) LANDLORD A THENANT, CYMRU Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2015 W E L S H S T A T U T O R Y I N S T R U M E N T S 2015 No. 1020 (W. 73) LANDLORD AND TENANT, WALES The Agricultural Holdings (Units of Production) (Wales) Order 2015 5

Agricultural Holdings (Units of Production) (Wales) Order 2015 (S.I. No. 1020 (W. 73) of 2014) · Nelum